TYSTIOLAETH CLlLC AC ADSS CYMRU I

YMCHWILIAD Y PWYLLGOR IECHYD, GOFAL

CYMDEITHASOL A CHWARAEON I’R

DDARPARIAETH IECHYD A GOFALCYMDEITHASOL

YNG NGHARCHARDAI CYMRU.

Mai 2019

 

 

Amdanom ni

1.        Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae’r tri awdurdod parc cenedlaethol a’r tri awdurdod tân ac achub yn aelodau cyswllt. 

 

2.        Mae CLlLC yn sefydliad trawsbleidiol wedi’i arwain yn wleidyddol, a’r arweinwyr o bob awdurdod lleol sy’n penderfynu ar bolisi drwy’r Bwrdd Gweithredol a Chyngor ehangach CLlLC. Mae CLlLC hefyd yn penodi uwch aelodau fel Llefarwyr a Dirprwy Lefarwyr i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol ar faterion polisi ar ran llywodraeth leol.

 

3.        Mae CLlLC yn gweithio’n agos gydag ymgynghorwyr proffesiynol a chymdeithasau proffesiynol o lywodraeth leol ac mae’n cael cyngor ganddynt yn aml, fodd bynnag, CLlLC yw corff cynrychioladol llywodraeth leol ac mae’n darparu llais cyfun, gwleidyddol llywodraeth leol yng Nghymru. 

 

4.        Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS Cymru) yw sefydliad arweinyddiaeth broffesiynol a strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru ac mae’n cynnwys Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol statudol a Phenaethiaid Gwasanaeth sy’n eu cefnogi i gyflawni cyfrifoldebau ac atebolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol; grŵp o fwy nac 80 o arweinwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar draws 22 awdurdod lleol Cymru.

 

5.        Fel y sefydliad arweiniol cenedlaethol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, rôl Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS) yw cynrychioli un llais awdurdodol Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Penaethiaid Gwasanaethu Oedolion, Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Busnes ynghyd â gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi plant ac oedolion diamddiffyn, eu teuluoedd a chymunedau, ar ystod o faterion cenedlaethol rhanbarthol polisi, ymarfer ac adnoddau gofal cymdeithasol. Dyma’r unig gorff cenedlaethol sy’n gallu lleisio barn y gweithwyr proffesiynol hynny sy’n arwain ein gwasanaethau gofal cymdeithasol.

 

 

 

 

Cyflwyniad

6.        Dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf), mae gan gynghorau lleol ystod o ddyletswyddau i’w cyflawni o safbwynt asesu a chwrdd ag anghenion gofal a chymorth unigolion yn yr ystâd ddiogeled. Mae angen iddynt fod ag ymagwedd holistaidd pan fo unigolion yn cwblhau eu dedfrydau ac wrth gynllunio iddynt gael eu rhyddhau.

 

7.        Dan y Ddeddf, rhaid i gynghorau lleol ymgysylltu â sefydliadau partner i nodi sut orau i ddefnyddio adnoddau presennol. Gall cynghorau lleol gomisiynu neu drefnu fod eraill yn darparu gwasanaethau gofal a chymorth neu, dirprwyo’r gwaith o gyflawni’r swyddogaeth i barti arall, ond y cyngor lleol fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflawni’r ddyletswydd.

 

8.        Rhaid i gynghorau lleol gefnogi plant ac oedolion gydag anghenion gofal a chymorth yn yr ystâd ddiogeledd yng Nghymru yn union fel y byddent ar gyfer rhywun yn y gymuned. Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid addasu trefniadau darparu gofal a chymorth sy’n gweithredu mewn lleoliad cymunedol i ddiwallu anghenion y boblogaeth a chyfundrefn yr ystâd ddiogeledd.

 

9.        Mae hyn yn newid mawr, yn flaenorol nid oedd yn glir pwy oedd yn gyfrifol am asesu a chwrdd ag anghenion gofal cymdeithasol yr unigolion hynny sydd yn yr ystâd ddiogeled, a’r canlyniad yw bod anghenion o’r fath yn aml heb eu cydnabod neu heb eu cyflawni’n effeithiol. O ystyried y newid sylweddol a’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau ychwanegol a osodir ar awdurdodau lleol, mae CLlLC ac ADSS Cymru yn croesawu’r cyfle i wneud sylw ar ymchwiliad y Pwyllgor i ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd garchardai oedolion.

 

Yr hyn mae’r cyfrifoldebau newydd yn ei olygu i awdurdodau lleol

10.    Mae’r newid i'r ddeddfwriaeth wedi golygu fod cyfrifoldebau yn cael eu roi i awdurdodau lleol ac mae’n rhaid ystyried dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys:

·         Rhaid darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r rhai hynny sydd yn yr ystâd ddiogeledd pan eu bod wedi eu carcharu, yn barod am gael eu rhyddhau ac wrth eu rhyddhau.

·         Rhaid darparu gwasanaethau ataliol a lles i’r rhai hynny yn yr ystâd ddiogeledd yn yr un modd â’r rhai hynny yn y gymuned;

·         I’r rhai hynny na ellir diwallu eu hanghenion gofal a chymorth drwy gyfeirio at wasanaethau ataliol a lles, rhaid i awdurdodau lleol ddod o hyd i ffyrdd i gynnal asesiad ar gyfer y rhai hynny yn yr ystâd ddiogeledd;

·         Mae angen gweithio ar y cyd â sefydliadau fel Iechyd, Tai, y Trydydd Sector ac Addysg i sicrhau ymateb cyson ac wedi'i gydgrynhoi;

·         Angen i Awdurdodau Lleol ystyried gwerth datblygu dull integredig gydag Iechyd i ymateb i'r anghenion iechyd a gofal cymdeithasol;

·         Mae’r dull asesu'r un fath ar gyfer pobl yn yr ystâd ddiogeledd fel y mae i bobl mewn unrhyw ran arall o’r gymuned a chaiff cyswllt gyda gwarchodwyr a theulu ei gynnal yn y dull arferol. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar hawliau gofalwyr am bobl yn yr ystâd ddiogeledd, er enghraifft nid oes rhwymedigaeth arnoch i ddarparu cynlluniau cymorth ar gyfer gofalwyr am bobl yn yr ystâd ddiogeledd;

·         Mae’r Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol a ddatblygwyd i'w ddefnyddio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru'r un mor berthnasol i’r rhai hynny yn yr ystâd ddiogeledd;

·         Mae angen i Awdurdodau Lleol ddarparu adnodd staff priodol gyda sgiliau priodol ac wedi eu hyfforddi i gyflawni dyletswyddau dan Ddeddf 2014.

 

Galw a Phwysau

11.    Mae’r Adroddiad Thematig ar y cyd diweddar gan Arolygiaeth Garchardai Ei Mawrhydi (HMIP) a’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) i ofal cymdeithasol mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr yn amlygu’r ffaith fod carchardai wedi eu hail-lunio yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil poblogaeth gynyddol y carchardai, ynghyd â dedfrydau hirach a dedfrydau sy’n cael eu rhoi am droseddau hanesyddol.  Ym mis Rhagfyr 2017, roedd 13,522 o bobl dros 50 oed yn y carchardai, sy’n 16% o gyfanswm poblogaeth y carchardai oedolion (rhai dros 18 oed). Mae’r amcanestyniadau’n nodi fod y nifer o bobl 50 oed a hŷn sy’n cael eu dal mewn lleoliadau gwarchodol yn debyg o gynyddu.  Gan hynny, mae anghenion yn newid, gan effeithio ar ddarpariaethau a chodi cwestiynau am addasrwydd a hyfforddiant staff i ofalu am boblogaeth sy’n gynyddol hŷn.

 

12.    Mae amryw o astudiaethau wedi defnyddio gwahanol feincnodau i ddiffinio oedran hŷn mewn lleoliadau carchar, ond cydnabyddir yn eang fod yr hyn yr ystyrir yn oedran hŷn mewn carchardai yn wahanol i’r hyn a ystyrir yn y gymuned. Yn ôl sawl adroddiad, mae carcharorion yn profi proses heneiddio gyflymach oherwydd ystod eang o ffactorau sy’n digwydd yn ystod eu dedfryd o garchar a chyn iddynt gael eu carcharu. Credir fod y carchar ei hyn yn amgylchedd sy’n gallu arwain at ddatblygu amhariadau corfforol a meddyliol. Yn ogystal, cydnabyddir yn eang fod iechyd meddyliol a corfforol carcharorion yn waeth na’r boblogaeth ehangach.

 

13.    Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn golygu fod carchardai yn gorfod delio’n gynyddol gydag eiddilwch ymhlith carcharorion. Mae Cymdeithas Geriatrig Prydain yn diffinio eiddilwch fel ‘stad iechyd unigryw yn ymwneud â’r broses heneiddio, lle mae systemau corfforol lluosog yn colli eu cronfeydd mewnol yn raddol’. Mae eiddilwch yn lleihau gallu person i ffynnu os bydd iechyd yn dirywio neu her, fel mynd i awyrgylch carchar. Yn y boblogaeth gyffredinol, mae’n amcangyfrif y bydd oddeutu 10% o’r rhai dros 65 oed yn dioddef o eiddilwch, gan godi i 25–50% o unigolion dros 85 oed.

 

14.    Fel yr amlygir hefyd yn yr adroddiad thematig, mae nifer y carcharorion gyda dementia yn bryder pellach. Yn y boblogaeth gyffredinol, mae dementia yn effeithio ar oddeutu 5% o rai dros 65 oed a 20% o rai dros 80 oed. Mae nifer achosion dementia yn lleoliad y carchar yn anhysbys i raddau helaeth ac efallai na fydd dementia yn cael ei nodi.

 

15.    Mae’r boblogaeth hŷn mewn carchardai, ynghyd â’r eiddilwch cynyddol a’r achosion o ddementia, wedi cyflymu’r angen i garchardai fynd i’r afael ag anghenion gofal cymdeithasol a hefyd addasrwydd yr amgylchedd ffisegol y caiff carcharorion eu cadw ynddi. Yn ogystal, mae gan gyfran arwyddocaol o garcharorion anableddau dysgu, awtistiaeth, anhwylderau iechyd meddwl neu anawsterau a allai hefyd effeithio ar eu gallu i ymdopi â bywyd yn y carchar. Ar draws y DU, amcangyfrifir bod[1]:

·         36% o garcharorion ag anabledd;

·         11% ag anabledd corfforol;

·         18% â gor-bryder neu iselder; a

·         8% ag anabledd corfforol a gor-bryder neu iselder.

 

16.    Yn arwyddocaol, nodwyd hefyd bod gan 9 o bob 10 carcharor broblem iechyd meddwl a / neu gamddefnyddio sylweddau y gellir rhoi diagnosis iddynt.

 

17.    Amlygwyd mewn asesiadau anghenion iechyd blaenorol ar gyfer carcharorion yng Nghymru:

·         lefelau arwyddocaol o iechyd meddwl gwael ac anhwylderau personoliaeth;

·         perygl cynyddol o hunan-niwed a hunanladdiad o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol;

·         lefelau sylweddol o gamddefnyddio sylweddau, camddefnyddio alcohol a defnydd tybaco;

·         lefelau uchel o gyflyrau cronig lluosog ymhlith carcharorion hŷn;

·         lefelau sylweddol o heneiddio cynamserol, ‘wedi’i gyflymu’, a lefelau sylweddol o salwch ac anabledd y gellid bod wedi ei osgoi;

·         lefelau uchel o firysau a gludir yn y gwaed;

·         ychydig dystiolaeth i awgrymu mynediad arferol i wasanaethau ac ymyriadau ataliol cynradd ac eilaidd cyn mynd i’r carchar; a

·         lefelau isel o lythrennedd a rhifedd.

 

18.         Roedd canfyddiadau allweddol eraill ymchwil blaenorol (May et al., 2008[2]; Stewart[3], 2008) hefyd wedi nodi’r canlynol:

·         Roedd bron i hanner y sampl wedi bod yn ddi-waith yn y flwyddyn cyn cael eu carcharu ac nid oedd 13% erioed wedi cael swydd;

·         Roedd wyth deg pump y cant wedi chwarae triwant o’r ysgol yn rheolaidd ac nid oedd unrhyw gymwysterau gan 46%;

·         Roedd pymtheg y cant yn byw mewn llety dros dro neu’n ddigartref cyn cael eu carcharu; roedd hyn yn gyffredin ymhlith carcharorion byrdymor ac oedolion;

·         Dywedodd chwarter fod ganddynt o leiaf un salwch neu anabledd hirdymor, cwynion cyhyrysgerbydol ac anadlu oedd y problemau iechyd mwyaf cyffredin a adroddwyd;

·         Dywedodd dros bedwar o bob pump yn y sampl (82%) fod ganddynt un neu ragor o symptomau iechyd meddwl, ac roedd gan draean (36%) rhwng chwech a deg o symptomau;

·         Roedd y rhan fwyaf o garcharorion wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithiol yn ystod y flwyddyn cyn cael eu carcharu; roedd merched, carcharorion sy’n oedolion a’r rhai a ddedfrydwyd am lai na blwyddyn yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn defnyddio herion neu gocên;

·         Nododd 36% o’r sampl eu bod yn yfed yn drwm ac roedd yn fwy amlwg ymhlith carcharorion tymor byr a dynion;

·         Roedd tuedd i garcharorion flaenoriaethu cyflogaeth a diffyg sgiliau dros faterion iechyd a theuluol o safbwynt yr help oedd ei hangen arnynt yn ystod eu dedfryd;

·         Dywedodd bron hanner (48%) y sampl fod angen help arnynt i ddod o hyd i gyflogaeth. Nododd 42% a 41% yn y drefn honno bod angen help arnynt i gael cymwysterau a gwella sgiliau’n ymwneud â gwaith. Roedd angen help ar tua thraean gyda thai a'u hymddygiad troseddol.

 

19.         Mae hefyd cysylltiadau rhwng iechyd gwael ac aildroseddu. Er enghraifft, mae troseddwyr sy’n gaeth neu â chyflwr iechyd meddwl yn fwy tebygol o fod angen cymorth gyda thai, addysg neu waith i newid eu bywydau ac atal ymddygiad troseddol yn y dyfodol. Fodd bynnag, ar yr un pryd, mae ymchwil yn dangos y bydd y troseddwyr hyn yn ei chael yn anoddach i gael cymorth prif ffrwd na’r boblogaeth gyffredinol. Mae anghydraddoldebau iechyd cynyddol felly’n cael eu gwaethygu gan rwystrau mwy rhag cael mynediad i wasanaethau i ddiwallu’r anghenion hynny.

 

20.         Y realiti yw bod sawl carchar hŷn yn anaddas i garcharorion mewn cadeiriau olwyn, neu gydag anawsterau symud. Mae rhai carcharorion yn ei chael yn anodd golchi ac edrych ar ôl eu hunain ac mae eraill sydd wedi syrthio yn methu cael help yn ystod y nos. I’r rhai hynny sydd wedi eu carcharu, ond sydd angen cymorth gyda’u gofal cymdeithasol neu bersonol, mae’n arbennig o heriol a brawychus. Cynlluniwyd carchardai fel man preswyl i unigolion corfforol ffit a meddyliol sefydlog, gyda bywyd carchardai yn cael ei drefnu i fynd i’r afael ag anghenion y mwyafrif. Mae carcharorion gydag anghenion gofal cymdeithasol – sy’n methu gofalu’n llwyr am eu hunain, ac angen help i fynd o amgylch y carchar neu gymryd rhan yn gymdeithasol - dan anfantais sylweddol.

 

Sut mae awdurdodau lleol yn cwrdd ag anghenion

21.         Er mwyn cyflawni'r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau sydd eu hangen gan y Ddeddf, mae rhai awdurdodau lleol, fel Pen-y-bont ar Ogwr a Wrecsam wedi sefydlu timau bach penodol sy’n eistedd o fewn y carchar, sy’n cynnwys ystod o staff, gan gynnwys: uwch ymarferydd gwaith cymdeithasol; gweithiwr cymdeithasol; a therapyddion galwedigaethol sy’n cynnal asesiadau a datblygu cynlluniau gofal a chymorth a reolir ar gyfer pobol yn yr ystâd ddiogeledd, yn ogystal â chefnogi gwaith tîm iechyd o fewn cyrraedd presennol y bwrdd iechyd. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor, a mentora cyfoedion a chefnogaeth.

 

22.         I eraill, mae cyfrifoldeb am y dyletswyddau newydd hyn o fewn y timau presennol. Er enghraifft, yn Sir Fynwy mae’r cyfrifoldeb gyda Thîm Gwasanaethau Integredig Sir Fynwy sy’n ffurfio partneriaethau newydd gyda OMS Cenedlaethol a’r Gwasanaeth Iechyd Carchardai (ABUHB) a datblygu, meithrin/ sefydlu dulliau ataliol, creadigol (y ‘Cynllun Cyfeillio’, Ioga, Ymwybyddiaeth Ofalgar, gweithgareddau Dydd, sesiynau cefnogaeth gan gymheiriaid), sy’n cynnwys poblogaeth y carchardai gydag anghenion gofal a chymorth.

 

23.         Amlygodd yr adroddiad thematig HMIP a CQC bryderon ynghylch y gofal anghyson a dderbyniwyd gan garcharorion hŷn, ynghyd â diffyg cynllunio ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio, fodd bynnag, cydnabyddir hefyd fod rhywfaint o welliant wedi bod yn y gofal am garcharorion hŷn ac anabl ers y newid yn y ddeddfwriaeth.

 

24.         Mae’r adroddiad yn nodi fod carcharorion gydag anghenion gofal cymdeithasol wedi eu nodi gan fwyaf wrth gyrraedd sefydliadau, naill ai drwy ddulliau sgrinio generig y carchar neu drwy ddulliau sgrinio gofal iechyd penodol. Roedd tystiolaeth fod carcharorion gydag anghenion gofal cymdeithasol yn cael eu nodi’n briodol ac yn cael eu cyfeirio’n brydlon yn y rhan fwyaf o sefydliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Yn ogystal, yng Ngharchardai Brynbuga a Prescoed, amlygwyd staff gofal cymdeithasol i fynychu’r cyfnod ymsefydlu cyffredinol i hyrwyddo’r gwasanaeth a nodi unrhyw anghenion a allai fod wedi eu methu wrth gael eu derbyn.

 

25.         Cafwyd hyd i arferion da yng Ngharchardai Caerdydd, Brynbuga a Phrescoed lle'r oedd model Cymru Gyfan wedi cymell targed ar gyfer asesiad sgrinio cychwynnol yn ôl timau gofal cymdeithasol penodol yr awdurdod lleol o fewn 24 awr i’r atgyfeiriad.

 

26.         Nodwyd Carchar Caerdydd hefyd am ei waith ar y cyd rhwng y darparwr iechyd a’r carchar i wella’r cyfleoedd cyfyngedig yn yr amgylchedd ffisegol y carchar i wneud addasiadau i ddiwallu’r anghenion. Yma roedd systemau sefydledig i’w hadolygu, gyda chomisiynwyr gwasanaeth a oedd yn ymwneud â’r adolygiadau ac unrhyw newidiadau oedd angen i gynlluniau gofal oedd yn cael eu rhoi i gomisiynwyr i gytuno arnynt.

 

27.         Yng Ngharchardai Brynbuga a Phrescoed, roedd y therapydd galwedigaethol wrthi’n asesu pob cell i ganfod anghenion. Y prif  broblemau a nodwyd oedd y gwlâu bync a’r toiledau isel. Roedd y therapydd yn archwilio’r defnydd o blinthau i godi'r toiledau gan nad oedd unrhyw fecanwaith arall ar gael. Roedd cerddwyr pedair olwyn gyda seddau wedi'u cynnwys ynddynt wedi eu neilltuo i garcharorion. Roedd rhain yn caniatáu gorffwys mwy cyfforddus gan fod y seddi’n gwiltiog, ac yn cynyddu annibyniaeth y carcharorion gan y gellid cario hambwrdd ar y cerddwr. Roedd hyn yn lleihau gorddibyniaeth ar gyfeillion carcharorion.

 

28.         Fodd bynnag, mae’r enghreifftiau hyn yn dangos, gan mai pob Bwrdd Iechyd unigol ac Awdurdod Lleol cysylltiedig sydd â throsolwg dros ddarpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn lleol, nad oes trosolwg cenedlaethol ar hyn o bryd.  Mae’r diffyg trosolwg cenedlaethol hwn yn golygu yn aml nad oes proses glir o sicrhau cytundeb cenedlaethol ar faterion yn ymwneud ag iechyd mewn carchardai.  Mae polisïau a llwybrau gwahanol yng ngwasanaeth iechyd pob carchar ar gyfer materion fel rhagnodi, sgrinio a chamddefnyddio sylweddau.  Mae hyn yn golygu y bydd cleifion yn derbyn gwasanaeth gwahanol yn dibynnu ble maen nhw wedi eu lleoli; gall hyn fod am sawl rheswm, gan gynnwys adnoddau neu wahanol fodelau gofal yn dibynnu ar y broses iechyd neu’r awdurdod lleol. Gallai hefyd fod gwahanol anghenion iechyd yn dibynnu ar yr anghenion iechyd lleol. Gan fod cryn dipyn o symud rhwng carchardai, mae hyn yn golygu y gall yr amrywiad o ran polisïau a llwybrau fod â goblygiadau arwyddocaol o ran sefydlogrwydd rheolaeth y rhai a garcharwyd. Gallai trosolwg genedlaethol helpu darparu parhad gwasanaethau ar draws carchardai, dysgu gan wahanol wasanaethau a datblygu safonau isafswm gofal.

 

Meysydd i’w gwella

29.         Er y cydnabyddir fod cynnydd wedi’i wneud i gwrdd ag anghenion gofal cymdeithasol carcharorion, mae awdurdodau lleol yn parhau i amlygu meysydd ar gyfer gweithredu neu wella, mae’r rhai yn cynnwys yr angen i:

·         wella mynediad i, a pharhad, gwasanaethau gan gynnwys gwasanaethau ataliol, rhwng yr ystâd ddiogeledd a’r gymuned. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau yn mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau, materion iechyd meddwl, ac iechyd rhywiol, mewn oedolion a phobl ifanc;

·         cryfhau gwasanaethau ataliol aml-asiantaeth, gan gynnwys cynnig sefydlogrwydd a chefnogaeth teuluol, er enghraifft drwy Teuluoedd yn Gyntaf a mynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs);

·         parhau i wella gwaith mewn partneriaeth, e.e. rhwydweithio, cyfathrebu a gweithio ar y cyd lle bo hynny’n briodol;

·         gwella ‘gwasanaethau cymunedol' ehangach (e.e. Nyrsys Ardal) i alluogi adnoddau ychwanegol i gael eu cyflwyno ‘tu mewn i’r giât’ pan fo’r angen yn codi (e.e. rheoli cleifion lliniarol) a chynnal yr egwyddor o ‘ofal yn nes at y cartref’;

·         datblygu llwybrau triniaeth ar gyfer y rhai hynny sy’n defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd; a

·         sicrhau fod cwnsela ar gael yn ehangach ar gyfer carcharorion sydd ar ddedfrydau hirach.

 

30.         Nodwyd fod cefnogaeth yn ymwneud ag ailsefydlu yn flaenoriaeth, gydag adsefydliad effeithiol yn cael ei ystyried yn allweddol i leihau aildroseddu. Mae tystiolaeth wedi dangos fod:

·         Mae 45% o oedolion yn cael ail gollfarn o fewn blwyddyn i gael eu rhyddhau;

·         ar gyfer y rhai hynny sy’n cwblhau dedfrydau o lai na 12 mis, mae hyn yn codi i 58%; ac

·         mae dau draean o rai dan 18 oed yn cael ail gollfarn o fewn blwyddyn i gael eu rhyddhau.

 

31.         Mae hyn yn golygu fod angen datblygu sgiliau galwedigaethol a chyflogadwyedd sydd â galw amdanynt yng Nghymru yn sgil yr anawsterau o ran datblygu cysylltiadau gyda chyflogwyr a sefydliadau addysgol a hyfforddiant. Ynghyd â’r angen i ddatblygu gweithio effeithiol mewn partneriaeth a threfniadau adsefydlu lleol da. 

 

32.         Gall tai sefydlog weithredu fel porth i adsefydlu ac mae cysylltiad rhwng bod yn ddigartref neu fyw mewn llety dros dro ac aildroseddu. Gall diffyg llety leihau cyfleoedd cyn-garcharorion i ddod o hyd i waith. Mae pobl sydd â llety wedi ei drefnu erbyn eu rhyddhau bedair gwaith yn fwy tebygol o fod â swydd, addysg a hyfforddiant wedi eu trefnu ar eu cyfer na’r rhai lle nad yw hyn yn wir.

 

33.         Er bod nifer o raglenni adsefydlu da yn bodoli, mae’n dal i fod angen gwella’r pontio rhwng carchar a’r gymuned. Mae angen datblygu darpariaeth llety priodol pellach yn y gymuned yn barod i bobl gael eu rhyddhau o’r carchar, yn ogystal â gwella mynediad i gymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

 

Heriau

34.         Mae heriau sylweddol i ddarparu’r gwasanaethau gofal sy'n ofynnol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn yr Ystâd Ddiogeledd; mae hyn yn sgil natur amgylchedd y carchar fel safle Diogel dan glo. Er mwyn cael mynediad i’r carchar, mae angen i staff asiantaethau allanol fynd drwy brosesau clirio caeth er mwyn ymweld ag unigolion sydd angen cymorth gofal cymdeithasol. Mae cael cliriad yn cymryd oddeutu wyth wythnos i’w gwblhau ar gyfer pob gofalwr a gyflogir i ddarparu gofal a chymorth yn y carchar; nid oes modd felly i ddarparu gwasanaethau yn yr un modd ag y byddent yn cael eu darparu yn y gymuned.

 

35.         Mae Awdurdodau Lleol wedi cael golwg ar ddulliau o oresgyn yr heriau hyn. Un dull a gymerwyd gan Ben-y-Bont ar Ogwr, er enghraifft oedd comisiynu gofal gan wasanaethau meddygol G4S o’r tu mewn i Garchar y Parc, sydd wedi cefnogi’r Awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau. Mae’n debygol, pe na bai’r carchar yn cael ei redeg yn breifat, y byddai'r Awdurdod wedi gorfod darparu’r gofal yn uniongyrchol ac oherwydd rheolau diogelwch yn y carchar, byddai hyn wedi golygu y byddai'n rhaid i staff ddarparu gofal mewn parau a fyddai wedi chwyddo cost y gofal yn sylweddol. Fodd bynnag, mae’r cynigion gwreiddiol wedi profi ers hynny i fod yn afrealistig oherwydd gwrthdaro rhwng blaenoriaethau am y tîm gwasanaethau meddygol ac effaith gweithdrefnau cloi yn y carchar. O ganlyniad, mae’r trefniadau gofal yn destun adolygiad gyda’r bwriad o ddarparu dull mwy cynaliadwy o symud ymlaen; mae’n anochel y bydd y trefniadau diwygiedig, boed nhw’n cael eu darparu gan G4S neu gan yr Awdurdod, yn golygu costau ychwanegol.

 

36.         Darparwyd £412,000 o gyllid ychwanegol yn wreiddiol fel grant penodol i’r Awdurdodau hynny gydag ystadau diogeledd o fewn eu ffiniau gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cyfrifoldebau newydd, fodd bynnag, mae rhai awdurdodau wedi nodi nad yw hyn yn talu'n llawn am gostau darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn amgylchedd yr ystâd ddiogeledd.Er enghraifft, mae Tîm Iechyd Meddwl Mewnol y Carchar (MHIRT) sy’n cynnig darpariaeth i Garchar y Parc a Charchar Abertawe, yn dîm amlddisgyblaethol sy’n cynnig gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd i garcharorion sy’n oedolion rhwng 18-65 oed. Roedd y model gwreiddiol ar gyfer gwasanaethau yn cydnabod ei bod yn afrealistig i ddisgwyl gwasanaeth Iechyd Meddwl cynhwysfawr i gwrdd â holl anghenion y grŵp oedran 18- 65 oed, felly cytunwyd y byddai’r MHIT yn cynnig gwasanaethau asesu/trin ar gyfer carcharorion gydag afiechydon meddwl difrifol aciwt, neu barhaus, ond yn bennaf yn ymwneud â’r asesiad o anghenion iechyd meddwl ar y pryd. Mae’r MHIT yn cynnwys: Seiciatrydd ymgynghorol (0.3wte), Nyrsys Cofrestredig Band 6 (3.0wte), Therapydd Galwedigaethol Band 6 (1.0 wte), Seicolegydd (0.2wte) a Rheolwr Tîm (1.0 wte).

 

37.         Fodd bynnag, pan gomisiynwyd y gwasanaeth hwn yn wreiddiol yn ôl yn 2004, roedd y dyraniad refeniw a gytunwyd arno yn seiliedig ar boblogaeth o 800 yn unig o garcharorion yng Ngharchar y Parc. Mae’r carchar wedi gweld datblygiadau wedi eu cynllunio ers cynnwys y gwasanaeth carchardai a Llywodraeth Cymru sydd wedi arwain at i boblogaeth y carchar godi i dros 1,700 o garcharorion. Yn y cyfnod ers sefydlu’r carchar yn wreiddiol, ni fu unrhyw gynnydd yn yr adnoddau ar gyfer y tîm Iechyd Meddwl Mewnol. Mae hyn yn gosod y cefndir ar gyfer her Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd i gynnig gwasanaeth cadarn i Garchar y Parc a Charchar Abertawe y mae’r MHIT wedi bod yn ceisio ei reoli o'r adnodd presennol a ariennir. O ystyried y pwysau ariannol presennol y mae awdurdodau lleol yn parhau i’w wynebu, credwn y byddai’n adeg briodol i archwilio’r lefelau cyllido sydd wedi eu nodi i gwrdd â’r cyfrifoldebau newydd hyn ac a ydynt yn ddigonol ai peidio er mwyn cwrdd ag anghenion gofal cymdeithasol carcharorion, yn arbennig o ystyried yr angen i fuddsoddi mewn meysydd ychwanegol er mwyn cefnogi a gwella darpariaeth gwasanaeth.

 

38.         Oherwydd yr amgylchedd gwaith heriol, mae’n anodd recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol cofrestredig cymwys i fod yn rhan o weithlu carchar. Yn hanesyddol, nid yw gwaith cymdeithasol a therapi galwedigaethol mewn carchardai wedi bod yn ddewisiadau gyrfa sefydledig i’r gweithwyr proffesiynol hynny ac mae wedi bod yn gryn dipyn o her i ddod o hyd i staff gyda’r cymhelliant i weithio yn y lleoliadau hyn. Ar ôl recriwtio, mae’r gweithdrefnau fetio yn hir ac mae cynnal cymhelliant staff a benodwyd drwy’r broses honno hefyd wedi bod yn heriol.

 

39.         Mae cynllun a natur ein hystâd bresennol o garchardai hefyd yn amgylchedd eithriadol o heriol i ddarparu gofal. I ddynion sydd angen gwlâu ysbyty, offer codi, cadeiriau arbenigol ac ati, mae’r heriau’n sylweddol. Er efallai nad oes angen gwely aciwt mewn ward ysbyty, y dewis arall yw cell arferol mewn carchar neu adain gyda'r offer yn ei le; gall hwn fod yn ofod cyfyng iawn i ddarparu gofal. Felly, o ystyried y demograffeg lle mae carcharorion yn heneiddio a’r galw cynyddol i gael unedau gofal lliniarol ar y safle, mae’n mynd i fod yn gynyddol bwysig i sicrhau fod cynllun ein mannau diogel yn iawn yn y dyfodol, fel eu bod yn addas i’r diben.

 

40.         Mae natur cymhleth iechyd carcharorion hefyd yn heriol, yn arbennig pan ddaw i asesu Gofal Iechyd Parhaus (CHC) gan nad oes unrhyw brotocolau clir o ran sut y gellir darparu hyn yn yr Ystâd Ddiogeledd. Er enghraifft, mae staff Cyngor Pen-y-Bont ar Ogwr wedi cefnogi’r tîm Gofal Iechyd yng Ngharchar y Parc i archwilio cymhwysedd ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn y carchar gyda’r Bwrdd Iechyd Prifysgol. Ar hyn o bryd, nid oes canllawiau clir o bwy sy’n gyfrifol am gynnal Asesiadau Nyrsio ar gyfer carcharorion sy’n ymddangos eu bod yn cwrdd â chymhwysedd ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned y GIG: ac mae hyn yn arbennig o berthnasol os yw’r carcharor wedi cyrraedd diwedd ei oes ac eisiau neu’n gorfod aros yng Ngharchar y Parc nes eu bod yn marw. Byddai’n gymorth felly, yn y maes hwn, pe gallai canllawiau gael eu hadolygu ar fyrder.

 

41.         Gyda demograffeg lle mae carcharorion yn heneiddio, mae costau asesu, darparu a rheoli gofal ar yr Ystâd Ddiogeledd yn codi. Bydd cost darparu asesiad a gofal a chymorth wedi ei reoli o fewn y carchar yn sylweddol uwch na chost darparu gofal cyffelyb yn y gymuned ehangach; mae’r effaith felly yn anghymesur o uchel ar awdurdodau sy’n cefnogi carchardai yn eu hardaloedd nac awdurdodau sydd ond yn derbyn carcharorion yn ôl i’w poblogaethau ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Mae CLlLC ac ADSS Cymru yn credu y dylai'r adnoddau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol o fewn yr Ystâd Ddiogeledd yng Nghymru gael eu halinio â'r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd sy’n darparu er mwyn sicrhau nad yw lleoliad a’r boblogaeth o garcharorion yn yr ystâd ddiogeled yn eu cymunedau yn cael effaith niweidiol anfwriadol arnynt.



[1] https://gofalcymdeithasol.cymru/cms_assets/file-uploads/SCW-NPAR-CYM.PDF

[2] May, C., Sharma, N. a Stewart, D. (2008) 'Research Summary 5: Factors linked to reoffending: a one-year follow-up of prisoners who took part in the Resettlement Surveys 2001, 2003 a 2004'.

[3] Stewart, D. (2008) 'The problems and needs of newly sentenced prisoners results from a national survey’.